_2

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y fersiwn ar-lein o Arolwg Cenedlaethol Cymru



Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r fersiwn ar-lein o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2026-27 – ar https://survey.natcen.ac.uk

Mae'r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (NatCen), ar ran Llywodraeth Cymru. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu cwblhau'r arolwg. Yn ogystal â fersiwn ar-lein, er mwyn helpu i wella hygyrchedd, rydym hefyd yn cynnig holiaduron papur a chyfweliadau dros y ffôn gyda chyfwelydd.

Yn y fersiwn ar-lein, gallwch:

• addasu maint y testun
• nesáu hyd at 200% heb i'r testun orlifo oddi ar y sgrin
• pennu iaith y dudalen, naill ai Cymraeg neu Saesneg

Rydym hefyd wedi sicrhau bod geiriad yr arolwg mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r arolwg ar-lein


Mae fformatau eraill (holiadur papur neu gymorth dros y ffôn gan gyfwelydd) ar gael ar gais.

Rydym yn parhau i weithio ar wneud yr arolwg ar-lein mor hygyrch â phosibl.

Os oes gennych broblemau penodol gydag unrhyw gwestiwn penodol, gallwch neidio i'r cwestiwn nesaf.

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o'r arolwg hwn yn gwbl hygyrch ar hyn o bryd:

• mae'n anodd defnyddio dim ond y bysellfwrdd i symud o amgylch sgriniau
• nid oes modd neidio heibio'r bar llywio a mynd yn syth at bob cwestiwn wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin

Adborth a gwybodaeth gyswllt


Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi cael eu rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: arolwgcenedlaethol@natcen.ac.uk

Os hoffech gymryd rhan yn yr arolwg mewn ffordd arall, megis dros y ffôn neu ar bapur:

E-bost: arolwgcenedlaethol@natcen.ac.uk

Ffôn: 0800 652 9294

Gallwch hefyd ofyn i ffrind neu berthynas eich helpu i gwblhau'r arolwg, ond dylai'r atebion ddod gan y person sydd wedi'i ddewis i gymryd rhan yn unig.

Gweithdrefn gorfodi


Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr arolwg ar-lein


Mae'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (NatCen) wedi ymrwymo i wneud yr arolwg ar-lein yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd


Mae'r arolwg ar-lein hwn yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.2, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio sy'n cael eu rhestru isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch


Nid yw'r cynnwys sy'n cael ei restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd


• Mae'n anodd defnyddio dim ond y bysellfwrdd i symud o amgylch sgriniau. Mae hyn yn ymwneud â maen prawf 2.1.1 WCAG 2.2.
• Nid oes modd neidio heibio'r bar llywio a mynd yn syth at bob cwestiwn wrth ddefnyddio rhaglen darllen sgrin. Mae hyn yn ymwneud â maen prawf 2.4.1 WCAG 2.2.

Fel y soniwyd uchod, gallwch gymryd rhan yn yr arolwg dros y ffôn neu ar bapur, neu gyda chymorth ffrind neu berthynas. Dylai hyn helpu'r arolwg i fod yn hygyrch i'r mwyafrif o bobl.

Byddwn yn diweddaru'r asesiad hygyrchedd hwn ym mis Mawrth 2027.

Sut rydym yn gwella hygyrchedd


Mae gwaith ar y gweill i wella hygyrchedd yr arolwg ymhellach ar gyfer y flwyddyn gwaith maes nesaf.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn


Paratowyd y datganiad hwn ym mis Ebrill 2026.

Profwyd yr arolwg ar-lein hwn am hygyrchedd ddiwethaf ym mis Ebrill 2026. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Gymdeithasol (NatCen).

Er mwyn cynnal y prawf hwn, fe wnaeth NatCen adolygu sampl o gwestiynau sy'n cwmpasu pob un o'r fformatau cwestiynau yn yr arolwg.